A drone view of Ysgol Penglais School, Aberystwyth

Mae Ysgol Penglais yn ysgol gyfun lwyddiannus iawn sy’n cynnig addysg o ansawdd uchel i bron i 1,300 o fyfyrwyr gan gynnwys dros 300 yn y chweched dosbarth. Sefydlwyd yr ysgol yn 1973 ac mae’n addysgu’n bennaf trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae Penglais yn meddu ar yr holl fanteision y gall ysgol fwy eu cynnig. Mae’r manteision hyn yn cynnwys ystod ehangach o ddewisiadau pwnc ar bob lefel, mwy o staff addysgu ac ategol arbenigol a chyfleusterau da iawn.

Cefnogir pob myfyriwr gan Diwtoriaid ac arweinwyr Blwyddyn:

“mae disgyblion yn mabwysiadu agweddau cadarnhaol iawn tuag at ddysgu.  Mae eu cymhelliant yn cael ei ddangos gan gysondeb eu hymddygiad da a’u gallu i gynnal lefelau priodol o ganolbwyntio”

Mae’r Ysgol hefyd wedi meithrin enw da am ofal rhagorol i’r myfyrwyr hynny ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan gynnwys Canolfan Cymorth Dysgu i’r myfyrwyr hynny sydd ag anawsterau dysgu difrifol a chymedrol yng ngogledd Ceredigion.

Rhoddir pwyslais mawr ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Mae canlyniadau ein harholiadau yn gyson ymhell uwchlaw’r cyfartaleddau cenedlaethol ac yn denu sylw cenedlaethol.

Yn ogystal, mae yna draddodiad cerddorol cryf yn yr Ysgol a chyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn sioeau cerdd a chynyrchiadau dramatig. Ceir amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol yn Penglais gan gynnwys pob prif gêm tîm, llawer o glybiau a chymdeithasau ac ystod wych o ymweliadau a chyfnewidiadau. Trefnir gwaith maes ac ymweliadau addysgol bob blwyddyn. Mae’r ysgol yn dathlu llwyddiant ei disgyblion yn flynyddol bob mis Rhagfyr mewn Noson Wobrwyo a Thystysgrifau yn Neuadd Fawr y brifysgol.

 

GWELEDIGAETH EIN HYSGOL

Mae Ysgol Penglais yn ysgol hapus, uchelgeisiol ac uchel ei chyrhaeddiad lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi. Rydym yn gymuned gref lle mae pawb yn gofalu am ei gilydd, gan wybod mai dim ond trwy gydweithio a pharch y byddwn yn cyflawni ac yn bod y gorau gallwn. Mae’n ysgol fywiog lle mae disgyblion a staff yn cydweithredu, dysgu, meddwl a gweithio’n galed. Rydym yn cydnabod bod goresgyn heriau yn allweddol i lwyddiant a thrwy ddatblygu dewrder, hyder a gwytnwch, bydd ein myfyrwyr yn dod yn ddinasyddion llwyddiannus o’u cymunedau, o Gymru a’r byd.

Byddwn yn cyflawni’r weledigaeth hon gyda’n gilydd drwy:

– Bod yn barchus ac yn garedig

– Bod yn uchelgeisiol a gwydn

 -Ddatblygu annibyniaeth a hyder

– Ddathlu amrywiaeth a llwyddiant

– Ymfalchïo mewn perthyn i’n cymuned