Mae arweinyddiaeth myfyrwyr yn elfen gref o’n profiad Chweched Dosbarth. Rydym yn ymwybodol bod gan fyfyrwyr uchelgais, menter, cymhelliant ac angerdd. Yr hyn y gallwn ni ei gynnig yw’r cyfleoedd, yr arweiniad a’r gefnogaeth i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn gwneud y gorau o’u potensial.
Mae Ysgol Penglais yn gwerthfawrogi gwasanaeth gwirfoddol a disgwylir i fyfyrwyr gwblhau lleiafswm o 30 awr, a thrwy hynny ddatblygu eu hymdeimlad o gymuned, cyfrifoldeb, arweinyddiaeth a phwrpas moesol. Datblygwyd cysylltiadau ag ysgolion cynradd lleol, cartrefi preswyl, a siopau elusen i enwi dim ond rhai.
Yn y Chweched Dosbarth, mae grŵp sylweddol o fyfyrwyr yn cael eu dewis i ddatblygu sgiliau arwain trwy gynrychioli’r corff myfyrwyr fel tîm o swyddogion. Dewisir y myfyrwyr hyn ym Mlwyddyn 12 ac maent yn rhan bwysig o lais y disgybl yn y chweched dosbarth. Gwahoddir myfyrwyr y Chweched Dosbarth i wirfoddoli i gynrychioli’r ysgol mewn digwyddiadau gydol y flwyddyn, megis Noson Agored y Chweched Dosbarth, Noson Agored Ysgol Penglais a Mabolgampau.
Rydyn ni am eich helpu chi i ddod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol ac uchel eu parch.
TÎM ARWEINYDDIAETH MYFYRWYR YSGOL PENGLAIS 2021-22
Y13
Prif ferch: Maxita Swain
Prif fachgen: Michael Glasby
Dirprwy brif ferch: Sarah Mohamed, Harhbi Cooper, Hannah Thomas
Dirprwy brif fachgen: Dylan John, Alex Devonport
Swyddogion:
Pontio: Carys Tranter
Mathemateg: Daniel Narain, Jin Shen
Saesneg: Dylan John
Dyniaethau: Tatum Waller
Mabolgampau: Alyse Goffin, Jamie Jones, Celyn Edwards, Llion Edwards
Gwyddorau: Seren Duggan, Poppy Kerridge
CBC: Alex Devonport
Ieithoedd: Amelie McBride
Creadigol: Iwan Roberts, Heledd Davies
Y Gymuned Ehangach/CRhA: Sarah Mohamed, Harhbi Cooper
Elusennau: Mia Yates, Ayesha Nawaz, Chinaza Sopuluchukwu
Trafod: Afon Hoare, Lloyd Warburton
Urdd/Ethos Cymreig: Hannah Thomas
Amgylchedd: Olivia Davies, Georgia Jones
Cyfathrebu Digidol: Billy Swanson
Swyddogion Cyffredinol: Henry Lewis