Rhifedd
Datblygu Rhifedd yn Ysgol Penglais
Fel ysgol anelwn at ymgorffori rhifedd ar draws y cwricwlwm i godi safonau ymresymu rhifyddol, strategaethau pen a thechnegau ysgrifenedig trwy ddull ysgol gyfan eang a chytbwys. Yn Ysgol Penglais, mae datblygu rhifedd yn gydgyfrifoldeb ac yn nod gyffredin; dylai pob aelod o staff sicrhau y manteisir ar gyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â rhifedd, er mwyn galluogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial fel mathemategwyr hyderus a chymwys.
Mae hyder mewn rhifedd yn rhan hanfodol o fywyd ac mae hyfedredd rhifiadol yn arwain at lawer o sgiliau bywyd manteisiol gan gynnwys cyllidebu a chynilo effeithiol, peidio â chael ei gamarwain gan ddata a deall risg.
Cefnogi rhifedd gartref
Beth allwn ni ei wneud? | Awgrymiadau pellach |
| Ymarfer mathemateg pen lle bo modd. | Adio prisiau mewn siopau i ddarganfod y cyfanswm a chyfrifo’r newid. |
| Ceisiwch amcangyfrif gydag arian, amser, pellter… | Defnyddiwch dalgrynnu gyda siopau mwy i amcangyfrif y cyfanswm. Mae’r daith fel arfer yn cymryd ‘cyhyd â hyn’ faint o’r gloch fyddwn ni’n cyrraedd? Pa mor uchel yw’r ffens honno yn eich barn chi? |
| Dweud amser ar gloc analog. | Gofynnwch iddynt beth yw’r amser, dywedwch y bydd swper yn barod mewn 40 munud, felly faint o’r gloch fydd swper yn barod? |
| Ymgysylltu ag amserlenni a graffiau. | Anogwch nhw i ddarganfod faint o’r gloch mae’r bws/trên nesaf trwy ddefnyddio amserlen – faint o’r gloch fydd y bws yn cyrraedd? Siaradwch am yr hyn y mae’r graffiau ar y newyddion yn ei ddangos. A ydynt yn glir ac yn llawn gwybodaeth neu’n gamarweiniol? |
| Ymarfer dysgu’r tablau hyd at 12 x 12. | Chwarae gemau sy’n cynnwys lluosi ac annog defnydd rheolaidd o TTRockstars. |
| Adolygu gwaith a gwblhawyd yn yr ysgol. Edrych trwy lyfrau pwnc a thrafod rhifedd ar draws y cwricwlwm. | Pa bynciau heblaw mathemateg oedd yn cynnwys rhywfaint o rifedd yr wythnos hon? A wnaethoch chi ddarllen/llunio graffiau mewn gwyddoniaeth/daearyddiaeth? A wnaethoch chi ddefnyddio tâp mesur neu raddfa bwyso mewn technoleg? |
| Bod ag agwedd gadarnhaol tuag at rifedd bob amser. | Os dywedir wrth fyfyrwyr ei bod yn iawn fod yn ‘ddrwg’ gyda rhifau, maent yn llai tebygol i ymgeisio. Os nad ydych yn hyderus eich hun anogwch nhw i ddangos/dysgu i chi. |
Adnoddau defnyddiol
Username: penglais
Password: median