.
Mae gan yr ysgol darged presenoldeb o 95%. Os bydd eich plentyn yn sâl yna dylai rhieni/gofalwyr gysylltu â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb a phob diwrnod y mae eu plentyn i ffwrdd o’r ysgol. Cysylltwch â ni ar 01970 621124 neu e-bostiwch attendance@penglais.org.uk
Ceir cyngor os yw’ch plentyn yn sâl trwy glicio’r ddolen hon: Is-my-child-too-ill-for-school.pdf
.
Pan fydd presenoldeb yn disgyn o dan 95% fe drafodir y mater rhwng yr Arweinydd Blwyddyn a’r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg a bydd llythyr yn cael ei yrru at rieni/gwarcheidwaid.
.
Os na fydd gwelliant mewn presenoldeb yna gwahoddir rhieni/gwarcheidwaid i gyfarfod i drafod y ffordd ymlaen. Nod y cyfarfod yw cynllunio sut i gefnogi’r myfyriwr i fynychu’r ysgol a sut i ddal i fyny â gwaith a gollwyd.
.
Os oes gan eich plentyn gyflwr meddygol parhaus sy’n atal presenoldeb yn yr ysgol rhowch wybod i’r Swyddog Presenoldeb. Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth feddygol neu gefnogaeth gan Nyrs yr Ysgol.
.
Mae presenoldeb yn yr ysgol yn cael ei drafod yn wythnosol gydag Arweinydd Blwyddyn, yr Uwch Arweinyddiaeth a Swyddog Cynhwysiant Addysg yr Awdurdod Lleol.
.
Mae gwyliau yn ystod y tymor yn cael eu cofnodi fel absenoldebau anawdurdodedig.
.
Sut gall rhieni/gwarcheidwaid helpu eu plentyn
.
- Sicrhewch fod eich plentyn yn brydlon ac yn dod i’r ysgol bob dydd.
- Os bydd eich plentyn yn dechrau colli ysgol, mae’n bwysig gweithio gyda ni i helpu’ch plentyn.
Os nad yw eich plentyn yn mynd i fod yn yr ysgol mae’n bwysig eich bod yn ffonio’r swyddfa presenoldeb ysgol ar 01970 621124 ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, gan esbonio’r rheswm am yr absenoldeb.
.
Sut rydym yn cefnogi presenoldeb a phrydlondeb da
.
- Rhown gydnabyddiaeth i’r myfyrwyr hynny sydd â record presenoldeb da iawn.
- Rydym yn gweithio’n agos gyda’n Swyddog Cynhwysiant Addysg.
- Rydym yn hapus i gwrdd â rhieni/gofalwyr i drafod strategaethau cefnogi lle bo’n briodol.
- Gellir gweld ein polisi presenoldeb trwy glicio ar y ddolen isod.
.
Rhai ffeithiau diddorol ynglŷn â phresenoldeb
.
- Mae gan rieni/gwarcheidwaid gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eu plant yn mynychu’r ysgol
- Dim ond y Pennaeth neu Mrs N M Thomas Uwch Athrawes â gofal am bresenoldeb all awdurdodi absenoldebau.
- Ceir 365 diwrnod mewn blwyddyn, 190 diwrnod yn y flwyddyn ysgol a 175 diwrnod di-ysgol i fwynhau gwyliau.
- Mae absenoldebau a gwyliau diangen yn golygu bod myfyrwyr yn colli allan ar eu haddysg.
.