Cludiant

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Ceredigion (fel yr Awdurdod Lleol) i ddarparu cludiant am ddim i fyfyrwyr o oedran ysgol gorfodol i’w hysgol a gynhelir addas agosaf os ydynt yn byw dros y pellter cerdded statudol. Darperir cludiant am ddim yn unol â -Teithio gan Ddysgwyr Cymru – Canllawiau Gweithredol (Mehefin 2014) a pholisi cludiant ysgol Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r trefniadau’n berthnasol i ddysgwyr sy’n byw yng Ngheredigion neu’r rhai yr ystyrir eu bod yn gyfrifoldeb Cyngor Sir Ceredigion.

Gallwch ofyn am ffurflen gais drwy ffonio 01970 633 555.