.

Mae’n bleser o’r mwyaf gennyf eich croesawu i Ysgol Penglais.

.

Mae Ysgol Penglais yn ysgol hapus, uchelgeisiol ac uchel ei chyrhaeddiad lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi. Mae gennym ddisgwyliadau uchel ohonom ein hunain a’n gilydd, yn ddisgyblion a staff, ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i gyflawni’r gorau gallwn.

.

Mae sicrhau bod ein myfyrwyr yn dysgu cymaint â phosibl yn greiddiol i ni ac felly rhoddwn bwyslais mawr ar ddatblygu ein staff. Rydym yn ysgol sy’n seiliedig ar ymchwil, gan sicrhau bod unrhyw ddatblygiad addysgu a dysgu wedi’i wreiddio mewn ymchwil. Ar y cyd â’r staff profiadol iawn, sydd â lefel uchel o wybodaeth bynciol a dealltwriaeth o sut mae myfyrwyr yn dysgu, mae hyn yn ein galluogi i ddarparu profiadau dysgu heriol, creadigol ac ysbrydoledig i’n disgyblion. Mae canlyniadau ein myfyrwyr TGAU a Safon Uwch, a’r llwybrau y mae llawer yn dewis eu cymryd, yn enghraifft o’r profiadau rhagorol y maent wedi’u cael yn yr ysgol.

.

Rydym yn ysgol gyfun iawn, yn gwasanaethu Aberystwyth a llawer o ardaloedd o fewn Ceredigion a thu hwnt. Mae hyn yn cynhyrchu bwrlwm ac egni gwych o fewn yr ysgol sy’n cynnig ystod o gyfleoedd i’n myfyrwyr. Mae ein gofal bugeiliol a’n cynhwysiant o fewn yr ysgol yn rhagorol ac yn helpu i gefnogi ein holl fyfyrwyr i gyflawni’n dda. Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol sy’n galluogi ein myfyrwyr i brofi llwyddiant mewn sawl agwedd o’u bywydau, yn gymdeithasol yn ogystal ag yn academaidd. Ein nod yw datblygu unigolion hapus a chyflawn sydd â chymwysterau da i ddod yn ddinasyddion llwyddiannus yn eu cymunedau lleol, Cymru a’r byd.

.

Mae Ysgol Penglais yn ysgol sydd wrth galon y gymuned a’n nod yw gweithio’n agos gyda phob menter o fewn Aberystwyth a’r gymuned ehangach. Mae cydweithio yn dod â llawer o gyfleoedd ac rydym yn chwilio am achlysuron pan allwn weithio gydag aelodau o’r gymuned leol i gefnogi ein myfyrwyr yn ogystal â’r gymuned.

.

Rwy’n falch iawn o fod yn Bennaeth Ysgol Penglais ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phawb i ddatblygu Penglais yn ysgol wirioneddol ragorol.

.

Ms M Hughes
Pennaeth