.
Goresgyn effeithiau amddifadedd disgyblion yn Ysgol Penglais 2021 – 2022
.
Mae 14% o fyfyrwyr Ysgol Penglais yn derbyn prydau ysgol am ddim. Er mwyn derbyn Prydau Ysgol am Ddim (PYDd), rhaid i deulu fod yn derbyn budd-daliadau a bod ag incwm o ddim mwy na £16,190. Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr sy’n derbyn gofal hawl i grant amddifadedd disgyblion LAC sy’n cael ei ddosbarthu drwy’r consortiwm addysg.
.
Mae Achub y Plant yn amcangyfrif bod un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae gan rai ohonynt hawl i Brydau Ysgol am Ddim, eraill a dim hawl iddynt tra bod rhai yn gwrthod, neu na allant, wneud cais.
.
Ar hyn o bryd nid yw myfyrwyr sy’n wynebu amddifadedd yn perfformio cystal â’u cyfoedion yng Nghymru. Dyma rai o’r nodweddion a nodwyd ym mhrofiadau ysgol myfyrwyr sy’n wynebu amddifadedd:
.
- cofnod presenoldeb gwael;
- gwrthod derbyn diwylliant yr ysgol;
- anghenion dysgu ychwanegol;
- bod â rhieni/gwarcheidwaid sy’n llai tebygol o fod yn rhan o addysg eu plant;
- yn achos bechgyn gwyn ddosbarth gweithiol, yn llai tebygol o gyflawni eu potensial nag unrhyw grŵp arall;
- cael hi’n anodd gofyn am help
- diffyg hunan-barch a hyder;
- teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, eu gwrthod neu eu hamharchu gan gyfoedion;
- gwrthryfela neu fod yn wahanol fel modd o hunan-amddiffyn.
.
Mae ymchwil wedi canfod y dylai ysgolion ganolbwyntio eu hymyrraeth ar y meysydd canlynol os ydynt am wneud y defnydd gorau o’r Grant Amddifadedd Disgyblion:
.
- Dulliau ysgol gyfan sy’n canolbwyntio ar
.
Arweinyddiaeth;
.
Dysgu ac addysgu effeithiol;
.
Lles Myfyrwyr.
.
- Ymgysylltu â rhieni/gwarcheidwaid a’u teuluoedd.
.
- Cryfhau cysylltiadau â’u cymunedau yn enwedig trwy ddysgu y tu allan i oriau ac ymyriadau mentora fel ffordd o gefnogi dyheadau.
.
(Egan, 2014, Gwneud defnydd effeithiol o’r Grant Amddifadedd Disgyblion.)
.
Ffynhonnell arall o wybodaeth yw Pecyn Cymorth Strategaethau i Wella Dysgu Ymddiriedolaeth Sutton. Mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi casglu swm sylweddol o dystiolaeth yn ymwneud â strategaethau ymyrraeth ac wedi nodi’r strategaethau sy’n rhoi’r budd mwyaf i fyfyrwyr gyda lefelau amrywiol o gost. Y strategaeth sy’n rhoi’r fantais fwyaf oedd adborth effeithiol gan athrawon i fyfyrwyr. Gall yr adborth fod yn ysgrifenedig, ar lafar, yn hunanasesiad neu asesiad o ansawdd uchel gan gymheiriaid. Nodwyd hefyd bod cael gwaith cartref o ansawdd uchel yn strategaeth a fyddai’n sicrhau enillion i fyfyrwyr am gost isel. Yn ogystal, mae mentora cymheiriaid a metawybyddiaeth wedi dangos eu bod yn darparu enillion ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar gost isel.
.
Gyda’r ymchwil a ddarparwyd gan ymddiriedolaeth Sutton, Egan ac argymhellion gan Estyn, byddwn yn gweithredu nifer o fentrau i gefnogi cynnydd a lles myfyrwyr sy’n wynebu amddifadedd.
.
Rydym yn anelu at ddarparu:
.
- addysgu a dysgu o ansawdd uchel o fewn yr ystafell ddosbarth;
- tasgau gwaith cartref heriol a diddorol sy’n cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr ac yn datblygu sgiliau astudio annibynnol;
- adborth o ansawdd uchel yn ystod gwersi ac mewn llyfrau;
- disgwyliadau uchel ar gyfer pob myfyriwr ynghyd a phroses olrhain glir sy’n ein galluogi i ymyrryd â chymorth ychwanegol os yw myfyriwr mewn perygl o dangyflawni;
- cwricwlwm cytbwys, eang a heriol ar gyfer bob myfyriwr;
- cymorth gyrfa sy’n amserol a phwrpasol i bob myfyriwr;
- olrhain presenoldeb yn amserol gyda chamau dilynol yn cael eu gweithredu’n unol â pholisïau a gweithdrefnau’r ALl;
- cefnogaeth emosiynol gan dimau bugeiliol ac yn yr Hafan sy’n caniatáu i fyfyrwyr gymryd rhan ym mywyd yr ysgol a’r cwricwlwm;
- timau bugeiliol sy’n ymgysylltu â rhieni/gwarcheidwaid drwy gyswllt rheolaidd a pherthnasoedd cadarnhaol;
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus priodol i’r holl staff i godi ymwybyddiaeth o effaith amddifadedd ar allu myfyrwyr i ddysgu a llwyddo;
- darparu cyfleusterau llyfrgell sydd ar gael cyn, ar ôl ac yn ystod y diwrnod ysgol.
.
Bydd holl staff Ysgol Penglais yn:
.
- nodi myfyrwyr PYDd yn synhwyrol mewn llyfrau marcio a pheidio byth ag arddangos SIMS gyda’r rhestr PYDd yn weladwy;
- cynnal disgwyliadau uchaf gan yr holl fyfyrwyr a’u cyfleu’n gyson;
- cefnogi dyheadau cadarnhaol i’r dyfodol ar gyfer pob myfyriwr;
- cyflwyno gwersi o ansawdd uchel sy’n herio pawb;
- darparu adborth o ansawdd uchel i fyfyrwyr;
- darparu offer pryd bynnag y bo angen i fyfyrwyr sy’n profi amddifadedd neu sy’n derbyn PYDd;
- trosglwyddo pryderon ar unwaith i aelod o’r tîm bugeiliol priodol os yw myfyriwr yn dangos arwyddion o galedi corfforol e.e. yn gysglyd, eisiau bwyd, diffyg gwisg lân;
- wrth gynllunio teithiau, sicrhau bod y teithiau yn cefnogi dysgu a bod yn ymwybodol a sensitif i bob myfyriwr trwy eu gwneud yn hygyrch i bawb;
- gofyn am ddefnyddio cronfeydd caledi lle bynnag y bo modd;
- annog defnydd o glybiau gwaith cartref a’r llyfrgell;
- bod yn ofalus wrth ofyn cwestiynau cyffredinol megis “a gawsoch chi wyliau/Nadolig da” a chymryd yn ganiataol bod dau riant/gwarcheidwad gartref. Mae’n bosibl na fydd llawer o fyfyrwyr sy’n byw mewn amddifadedd yn byw gydag un rhiant/gwarcheidwad ac efallai eu bod yn derbyn gofal gan aelodau’r teulu neu’r gwasanaethau cymdeithasol.
.
Bydd y timau Bugeiliol :
.
- yn adnabod rhieni/gwarcheidwaid anodd eu cyrraedd nad ydynt yn mynychu nosweithiau rhieni ac yn annog deialog gyda’r ysgol;
- wedi nodi’r myfyrwyr hynny sy’n wynebu amddifadedd sydd ar incwm isel a/neu PYDd;
- yn cefnogi athrawon trwy ddarparu gwybodaeth, ac ymateb os yw athrawon pwnc yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol.
.
Bydd Hafan yn:
.
- darparu darpariaeth grŵp anogaeth ar gyfer y myfyrwyr hynny a nodwyd;
- cyfweld myfyrwyr a nodwyd gan y tîm bugeiliol sy’n cael PYDd a mentora’r rhai sydd ei angen;
- darparu cyfleoedd cymhwyster i’r rhai sy’n gweld cwricwlwm prif ffrwd yn anhygyrch yng Nghyfnod Allweddol 4.
.
Ysgol Penglais: gwarint y Grant Amddifadedd
.
- Cefnogaeth Allgymorth Hafan
- Cefnogaeth Fugeiliol
- Ymyrraeth
- Cefnogaeth CA4
- Presenoldeb
- Gwasanaeth cwnsela
- Arweinwyr Cyflawniad
- Staff cymorth
- Cymorth dewis opsiynau
- Cymorth cyfarpar a gweithgareddau addysgol