Gweithgareddau Cyfoethogi Allgyrsiol ac Uwch Gwricwlaidd

Mae’n debyg eich bod wedi clywed am ‘weithgareddau allgyrsiol’, ac y byddwch yn gwneud rhai ohonynt. Mae’r ‘allgyrsiol’ yn cyfeirio at weithgaredd sydd y tu allan i’ch cwricwlwm arferol fel gwneud chwaraeon neu gofrestru ar gwrs Cymorth Cyntaf.

Gweithgareddau uwch-gwricwlaidd yw’r rhai sy’n mynd â’ch cwricwlwm rheolaidd gam ymhellach. Maent yn mynd â’r pynciau rydych chi’n eu hastudio yn yr ystafell ddosbarth y tu hwnt i’r hyn y mae eich athro wedi’i ddysgu i chi neu’r hyn rydych chi wedi’i wneud ar gyfer gwaith cartref. Er enghraifft, efallai yr ewch i fwy o ddyfnder ar rywbeth rydych chi wedi’i drafod yn yr ystafell ddosbarth, neu ddysgu am bwnc hollol newydd. Mae’r gweithgareddau hyn fel arfer ar ffurf darllen ychwanegol ond gallant fod ar sawl ffurf arall, fel gwylio fideos ar-lein, lawrlwytho darlithoedd, ymweld ag amgueddfeydd neu gymryd rhan mewn cystadlaethau academaidd. Gallai hyd yn oed fod yn brosiect annibynnol fel astudiaeth Bagloriaeth Cymru a gwblheir ym Mlwyddyn 13.

Er mwyn llwyddo yn y prifysgolion gorau, mae’n bwysig cael dau beth:

  • Angerdd dros eich pwnc
  • Y gallu i astudio’n annibynnol

Dyma ddau o’r rhinweddau pwysicaf y mae’r prifysgolion gorau yn chwilio amdanynt mewn darpar fyfyrwyr. Mae gwneud rhywbeth fel darllen ychwanegol neu nodi cwestiwn traethawd yn eich pynciau yn ffyrdd da o wirio a oes gennych yr angerdd am eich pwnc, hyd yn oed pan fydd eich gwaith cartref wedi’i wneud am yr wythnos. Mae’n arwydd cadarnhaol eich bod wedi dewis y peth iawn!

Mae’n bwysig eich bod chi’n caru’ch pwnc, oherwydd o hyn yn naturiol daw’r cymhelliant i astudio drosoch eich hun ac archwilio’r hyn sydd ar gael. Mae prifysgolion yn edrych i weld os ydych wedi gwneud hyn oherwydd gall ddangos, nid yn unig eich gallu i hunan-astudio, sy’n hanfodol ar gyfer cyfnod llwyddiannus yn y brifysgol, ond sut rydych chi’n ymateb i’r syniadau newydd y dewch ar eu traws. Mae hyn yn rhywbeth y gallwch chi weithio arno, trwy wthio eich hun i amsugno gwybodaeth newydd yn weithredol, mynd i’r afael â dadleuon, herio rhagdybiaethau a datgelu gwendidau.

GWEITHGAREDDAU UWCH GWRICWLAIDD

Mae The Clever Podcast yn ymwneud â dylunio, gyda chyfweliadau ysbrydoledig hefo phrif ddylunwyr. http://www.cleverpodcast.com/

Cemeg – RSC learn chemistry

https://edu.rsc.org/resources

Adnodd ar-lein yw’r cylchgrawn Edge sy’n dod â meddylwyr blaenllaw yn eu meysydd ac o fewn meysydd pwnc eang at ei gilydd– meddwl, bywyd, diwylliant, bydysawd a thechnoleg. Mae’r sgyrsiau arbenigol yn amrywio o atal Alzheimer i ‘Sut i fod yn feddyliwr systemau’.

Ffilmiau, Rhaglenni Dogfen a Radio Mae ffilmiau a rhaglenni dogfen yn fan astudio da ar gyfer deall eich pwnc. Mae gan y radio, yn enwedig BBC Radio 4, ystod eang o raglenni a phodlediadau. Er enghraifft, os ydych chi’n wyddonydd – ‘The Infinite Monkey Cage’

Isaac Physics -Disgrifir fel prosiect Adran Addysg gan Brifysgol Caergrawnt. Ei nod yw rhoi i fyfyrwyr sy’n trosglwyddo o TGAU i Chweched Dosbarth i’r brifysgol, fewnwelediad i, a dealltwriaeth o, ffiseg  trwy ddatrys problemau. Mae’r adnoddau Lefel A yn amrywio o ddatrys problemau a chynlluniau mentora i adnoddau estynedig  (yn cynnwys adran ar gwestiynau mathemateg i helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad cwrs STEM).

Khan Academy- yn cynnig cyrsiau a gwersi ar-lein am ddim.

https://www.khanacademy.org/

MOOCs – cyrsiau arlein

Mae MOOCs yn sefyll am Cyrsiau Ar-lein Agored Anferth (Massive Open Online Courses) gyda’r mwyafrif yn rhad ac am ddim. Mae’r ystod o gyrsiau ar-lein sydd ar gael yn enfawr, o’r rhai a all fod yn gysylltiedig â’r pwnc sy’n cael ei astudio ar lefel prifysgol i’r rhai sy’n helpu i ddatblygu sgiliau meddal. Trwy ddewis cyrsiau yn ofalus, gall myfyrwyr ddangos angerdd am eu pwnc ar lefel prifysgol.

  • Alison (https://alison.com/courses) yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, o gelf i’r dyniaethau.

  • Mae gan Coursera (https://www.coursera.org/) amrywiaeth o gyrsiau ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a sefydliadau blaenllaw i gynnig cyrsiau ar-lein. Mae’r cyrsiau’n amrywio o Gyflwyniad i Beirianneg Fecanyddol i Gyflwyniad i Feddylfryd Mathemategol a mwy.

  • Mae gan EdX (https://www.edx.org) ddewis eang o gyrsiau, yn amrywio o wyddoniaeth i ieithoedd a’r gyfraith. Sefydlwyd EdX gan Brifysgol Harvard a MIT (Massachusetts Institute of Technology).

  • Mae Futurelearn (https://www.futurelearn.com) wedi partneru â phrifysgolion blaenllaw i ddarparu ystod eang o MOOCs. Gweler eu gwefan ac ewch i dudalennau prifysgolion unigol i archwilio’r ystod o MOOCs sydd ar gael.

  • Mae Udacity (https://eu.udacity.com/) yn canolbwyntio ar gyrsiau sy’n ymwneud â chyfrifiadura.

  • Mae gan Udemy (https://www.udemy.com/) ystod eang o gyrsiau ar-lein, o ddylunio a ffotograffiaeth i TG a meddalwedd.

Moral Maze –

Dadleuon diddorol ar BBC Radio 4

Amgueddfeydd – amryw

Mae gan y Guggenheim lawer o lyfrau celf rhad ac am ddim

https://archive.org/details/guggenheimmuseum?sort=titleSorter

My HE Plus yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caergrawnt. Nod y wefan yw rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio gwahanol bynciau y tu hwnt i gwricwlwm yr ysgol. Mae pob adran bynciol wedi’i llunio gan fyfyrwyr ôl-raddedig o Gaergrawnt ac academyddion sydd ar flaen y gad o ran ymchwil yn eu maes. Yn ogystal â gweithgareddau tywys, mae cwestiynau i bendroni drostynt ac awgrymiadau ar gyfer darllen pellach. http://www.myheplus.com/

Wedi’i greu gan Brifysgol Rhydychen, nod Oxplore yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn dadleuon a syniadau sy’n mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Ymdrinnir ag ystod eang o bynciau, o archeoleg i sŵoleg, ac yn gysylltiedig  â’r ymchwil diweddaraf sy’n cael ei wneud yn Rhydychen. https://oxplore.org/

Cymdeithasau a Chlybiau Ymaelodwch â chymdeithas a chlwb perthnasol – fel arfer mae aelodaeth myfyrwyr yn rhatach a bydd yn rhoi mynediad i chi i bob math o adnoddau.

Staircase 12- yn cael ei gynnal gan Brifysgol Rhydychen. Mae yma gyfoeth o adnoddau a gwybodaeth ar-lein gyda llawer o syniadau i helpu myfyrwyr i ymestyn eu gwybodaeth y tu hwnt i faes llafur yr ysgol. https://www.univ.ox.ac.uk/applying-to-univ/staircase12/

Sgyrsiau TED. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gyfarwydd â sgyrsiau TED ac maent yn ffynhonnell wych o sgyrsiau ysbrydoledig gan arbenigwyr blaenllaw. Lle da i ddechrau yw’r sgyrsiau a argymhellir gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. https://blog.ed.ted.com/2017/03/16/9-ted-talks-recommended-by-students-for-students/ neu https://www.weareteachers.com/ted-talks-students/

Teithiau ac Ymweliadau Ewch i ymweld ag amgueddfeydd, gan fod amgueddfa ar gyfer pob pwnc. Trefnwch ymweliad â ffatri os dymunwch astudio peirianneg neu daith dramor os dymunwch astudio iaith. Hefyd gall ymweld â theatrau lleol wella eich dealltwriaeth o ddrama, y ​​celfyddydau a’r cyfryngau. Mynychwch ddarlithoedd a gynigir gan CPC Aberystwyth.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad a gwneud rhywbeth da tra hefyd yn ennill ystod o sgiliau trosglwyddadwy i helpu gyda cheisiadau prifysgol myfyrwyr.

Dylai myfyrwyr feddwl yn ofalus am yr ymrwymiad amser sydd ei angen yn ogystal â’r hyn y byddant yn ei ennill o’r gweithgaredd, a’r hyn y gallant ei gynnig hefyd. Gallai gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â’u cwrs gradd prifysgol dewisol fod o help i fyfyrwyr. Os nad yw hyn yn bosibl, yna iddynt feddwl am y sgiliau trosglwyddadwy y gallent eu hennill sy’n ymwneud â’u cwrs gradd. Gallai gwirfoddoli hefyd roi’r cyfle i ddatblygu sgiliau meddal sy’n dweud rhywbeth cadarnhaol am fyfyriwr. Gall myfyrwyr chwilio am rolau gwirfoddoli trwy sawl sefydliad:

V-inspired yw prif elusen wirfoddoli’r DU ar gyfer pobl ifanc 14 i 25 oed. Mae’r elusen yn helpu pobl ifanc i wneud eu marc ar yr achosion sy’n bwysig iddynt tra ar yr un pryd yn dysgu sgiliau newydd. Mae modd chwilio yn ôl maes a diddordeb neu weithgaredd penodol a dod o hyd i rywbeth at ddant myfyriwr. Mae yna hefyd weithgareddau rydych chi’n eu gwneud ar-lein. www.vinspired.com

Do-it  – yn rhestru cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pob oedran. Gydag ychydig o ddyfalbarhad, a thrwy chwilio yn ôl gweithgaredd ac ardal neu god post, efallai y bydd myfyrwyr yn medru dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn lleol. http://www.do-it.org.uk 

Why Not Chem Engineering yn cynnwys popeth sydd angen i fyfyrwyr ei wybod am beirianneg gemegol. https://www.icheme.org/education/whynotchemeng/

Darllen yn ehangach

Cynghorir myfyrwyr i ddarllen o gwmpas y pwnc y maent yn bwriadu ei astudio a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn eu dewis bwnc. Gall hyn fod trwy gylchgronnau neu drwy lyfrau a ysgrifennwyd gan arbenigwyr yn eu meysydd diddordeb, neu raglenni dogfen. Man cychwyn efallai fyddai chwilio am ymchwil/meysydd datblygu/prosiectau prifysgol, sydd i’w gweld ar wefannau prifysgolion unigol. Defnyddiwch yr awgrymiadau ar gyfer eich dewis pwnc / gyrfa ar wefan Unifrog.

Profiad gwaith

Cynghorir myfyrwyr i gael profiad gwaith sy’n berthnasol i’w  maes astudio dewisol. Bydd hyn nid yn unig yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar eu pwnc/gyrfa ddewisol, ond yn eu galluogi i wneud dewis gwybodus ynghyd a dangos lefel o ymrwymiad i’r pwnc gradd y maent yn bwriadu ei astudio.

Darlithoedd Yale -Mae  Yale, un o brifysgolion gorau America yn cyhoeddi eu holl ddarlithoedd ar gyfer rhai o’u cyrsiau ar You Tube.

https://www.youtube.com/user/YaleCourses/playlists

Nodyn i rieni/gwarcheidwaid

Bydd rhai myfyrwyr a digon o hunan gymhelliant i ddarllen, gwrando a threfnu’r pethau hyn drostynt eu hunain. Mae’n werth siarad â ffrindiau a theulu am fannau perthnasol a gofyn am gysylltiadau busnes lleol.

Nodyn i fyfyrwyr

Beth bynnag a wnewch, cadwch gofnod ac efallai, yn bwysicach fyth, nodi’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu o’r profiad. Mae’n hawdd iawn anghofio am y teithiau rydych chi wedi bod arnyn nhw a’r llyfrau rydych chi wedi’u darllen. Gallwch greu eich rhestrau eich hun neu ddefnyddio gwefan Unifrog.