Blog Myfyrwyr

Un o amcanion y tîm arweinyddiaeth myfyrwyr eleni yw datblygu blog myfyrwyr Ysgol Penglais. Credwn bydd y blog yn darparu deunydd darllen ar-lein defnyddiol ac addysgiadol i fyfyrwyr a rhieni. Bydd y blog yn cyflwyno gwybodaeth am agweddau ar gymuned yr ysgol o safbwynt myfyrwyr; gall hefyd fod yn le i rannu syniadau ac awgrymiadau yn ymwneud â dysgu. Mae’r tîm arweinyddiaeth myfyrwyr ar hyn o bryd yn ymchwilio ac yn datblygu syniadau a gobeithiwn gael hyn ar waith ar gyfer 2021-22.