Cytundeb Cartref-Ysgol
Fel ysgol byddwn yn:
- Annog presenoldeb a phrydlondeb da a dilyn i fyny pob absenoldeb heb esboniad
- Mynnu bod pob myfyriwr yn gwisgo gwisg ysgol
- Sicrhau fod pob myfyriwr yn gwybod pa offer sydd ei angen arnynt
- Darparu Cynlluniwr a Cherdyn Cinio i bob myfyriwr
- Gosod y safonau uchaf ar gyfer addysg eich plentyn
- Adrodd yn rheolaidd ar gynnydd eich plentyn
- Darparu’r hyfforddiant gorau y gallwn
- Darparu amserlen gwaith cartref a Chynlluniwr
- Gosod a marcio gwaith cartref yn rheolaidd
- Canmol gwaith da ac ymdrech
- Cosbi yn deg i gefnogi ein Polisi Ymddygiad ar gyfer Dysgu
- Monitro gweithgaredd ar-lein myfyriwr tra yn yr ysgol gan ddefnyddio hidlydd Smoothwall yr Awdurdod Lleol
- Defnyddio ClassCharts i hysbysu rhieni/gwarcheidwaid
- Sicrhau bod amgylchedd ein hysgol yn un agored, croesawgar a diogel. Nid ydym yn disgwyl i unrhyw un ddod â sylweddau anghyfreithlon neu arfau posibl i’r ysgol
- Os ydym yn credu bod gan unrhyw un sylweddau anghyfreithlon neu arfau posibl, bydd staff yn cynnal chwiliad gwirfoddol
- Bydd pryderon a godir gan fyfyrwyr, rhieni/gwarcheidwaid a staff yn cael eu trin yn briodol. Lle nad yw materion yn addas i ni eu datrys, gwneir cyfeiriadau at asiantaethau eraill gan gynnwys yr Heddlu
- Cynnal cyfarfodydd rheolaidd i rieni/gwarcheidwaid ac anfon cylchlythyr adref a diweddaru gwefan yr ysgol yn rheolaidd
- Ymateb i unrhyw bryderon o fewn dau ddiwrnod gwaith
- Cyfoethogi’r cwricwlwm trwy ddarparu gweithgareddau allgyrsiol
Fel Rhiant/Gwarcheidwad byddaf/byddwn yn:
- Sicrhau bod fy mhlentyn yn mynychu’r ysgol bob dydd ac ar amser
- Rhoi gwybod i’r ysgol yn y bore os yw fy mhlentyn yn absennol a’r rheswm am hyn
- Hysbysu’r ysgol yn ysgrifenedig o unrhyw newid mewn manylion cyswllt neu gyfeiriad
- Sicrhau bod fy mhlentyn yn gwisgo’r wisg ysgol gywir yn unol â pholisi Ysgol Penglais
- Sicrhau bod gan fy mhlentyn y llyfrau a’r offer cywir ar gyfer yr ysgol
- Annog fy mhlentyn i wneud ei gorau
- Annog fy mhlentyn i gofnodi a chwblhau gwaith cartref
- Gwirio a llofnodi Cynllunydd fy mhlentyn yn wythnosol
- Tynnu sylw’r ysgol at unrhyw bryderon a all effeithio ar waith fy mhlentyn
- Cefnogi Polisi Ymddygiad yr ysgol nid yn unig yn yr ysgol ond hefyd ar y ffordd i,ac o’r, ysgol
- Annog fy mhlentyn i gadw safon uchel o ymddygiad bob amser
- Tynnu sylw’r ysgol at unrhyw bryderon a all effeithio ar ymddygiad fy mhlentyn
- Monitro gweithgaredd ar-lein fy mhlentyn
- Annog fy mhlentyn i barchu amgylchedd agored, croesawgar a diogel yr ysgol
- Sicrhau bod fy mhlentyn yn deall pam, am resymau diogelwch, nad yw’r un myfyriwr i ddod â sylweddau neu arfau anghyfreithlon i’r ysgol
- Hysbysu aelod o staff pan fydd gennyf bryderon ynghylch fy mhlentyn neu unrhyw fyfyriwr arall,
- Mynychu nosweithiau rhieni i drafod cynnydd fy mhlentyn
- Rhoi gwybod i’r ysgol am unrhyw broblemau sy’n debygol o effeithio ar ddysgu fy mhlentyn
- Sicrhau bod gan yr ysgol bob amser y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cyswllt brys
- Sicrhau bod gan yr ysgol bob amser y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cyswllt brys
- Annog fy mhlentyn i gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau, a gweithgareddau chwaraeon a cherddorol yr ysgol
Fel Myfyriwr byddaf yn:
- Mynychu’r ysgol bob dydd ac ar amser
- Gwisgo gwisg ysgol lawn bob amser, heb unrhyw ychwanegiadau
- Dod â’r offer cywir i’r ysgol
- Gwneud fy ngorau bob amser
- Defnyddio fy Nghynllunydd i gofnodi gwaith cartref a chwblhau aseiniadau gwaith cartref ar amser
- Gweithio yn dawel ac yn synhwyrol yn y dosbarth
- Dilyn holl bolisïau’r ysgol nid yn unig yn yr ysgol ond hefyd ar y ffordd i’r ysgol ac adref
- Cadw’r ysgol yn daclus ac yn glir o sbwriel
- Parchu staff yr ysgol, cyfoedion a’r gymuned leol
- Ymddwyn yn briodol tra ar-lein
- Parchu amgylchedd agored, croesawgar a diogel yr ysgol
- Ymatal rhag dod ag unrhyw sylweddau anghyfreithlon neu arfau posibl ar gludiant ysgol neu i mewn i amgylchedd yr ysgol
- Hysbysu aelod o staff pan fydd gennyf bryderon ynghylch myfyrwyr eraill,
- Mynd â llythyrau ysgol adref at fy rhieni/gwarcheidwaid
- Rhoi gwybod i’m hathrawon os oes gennyf bryderon sy’n effeithio ar fy nysgu neu les
- Ymfalchïo yn yr ysgol ac ymdrechu i’w gwella
- Defnyddio’r cyfleoedd a gynigir i mi i gymryd rhan mewn clybiau, cymdeithasau, gweithgareddau chwaraeon a cherddorol