Iechyd a Lles

Mae iechyd, iechyd emosiynol a lles holl aelodau cymuned Ysgol Penglais yn greiddiol i holl werthoedd a nodau ein hysgol.

Rydym yn hybu iechyd, iechyd emosiynol a lles cadarnhaol er mwyn helpu myfyrwyr a staff i ddeall a mynegi eu teimladau ac i fagu eu hyder a’u gwydnwch emosiynol ac felly eu gallu i ddysgu, derbyn newid a chyflawni eu potensial yn llawn.

Mae’r Ysgol yn croesawu cyfleoedd i hybu iechyd, iechyd emosiynol a lles drwy’r cwricwlwm ffurfiol ac anffurfiol. Mae staff yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i sicrhau bod iechyd, iechyd emosiynol a lles yn cael sylw. Mae’r rhain yn ategu ac yn adlewyrchu nodau a gwerthoedd cyffredinol yr ysgol.

Mae ein dull gweithredu yn cynnwys:

  •  Gosod tasgau heriol priodol
  • Ffocws ar ganmoliaeth gadarnhaol a gwobrwyo, system gosbi glir a hysbys
  • Strategaethau ymddygiad cadarnhaol ar gyfer ymateb i sefyllfaoedd a gweithredoedd
  • Cedwir rhieni yn hysbys â’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol trwy gylchlythyron rheolaidd, Parentmail, grŵp Facebook, digwyddiadau cymdeithasol a drefnir gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, digwyddiadau cwricwlwm, nosweithiau rhieni
  •  Cysylltiadau agos rhwng asiantaethau proffesiynol eraill sy’n cefnogi ein myfyrwyr
  • Systemau gofal bugeiliol rhagorol
  • Y cwricwlwm ABaCh
  • Darparu sesiwn lles bob dydd i roi cyfle i bob myfyriwr siarad ag oedolyn cyswllt allweddol
  • Annog cydweithredu a chydweithio
  • Annog a datblygu strategaethau ymdopi a gwydnwch
  • Cynorthwy-ydd Cefnogi Llythrennedd Emosiynol amser llawn
  • Mynediad at gwnselydd yr ysgol
  • Cyfarfodydd tymhorol gyda’r Prosiect Mewngymorth Ysgolion (School in-Reach Project) sy’n rhoi cyngor ar atgyfeirio Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)

Mae darparu Addysg Bersonol, Gymdeithasol, Iechyd ac Emosiynol (ABGI) yn hanfodol i’n hyrwyddiad o iechyd ac iechyd emosiynol. Mae rhaglenni cynlluniedig a chyfleoedd cwricwlaidd anffurfiol yn bodoli i archwilio materion sy’n briodol i oedrannau a chyfnodau datblygiad y myfyrwyr. Mae’r staff yn ymdrin â’r materion hyn yn sensitif ac yn gwahaniaethu yn ôl anghenion y myfyrwyr yn eu gofal.

Rhoddir pwyslais gennym fel ysgol ar annog disgyblion i gymryd rhan mewn digwyddiadau ysgol a chymunedol. Mae ystod o gyfleoedd allgyrsiol ar gael sy’n galluogi ein myfyrwyr i ymestyn eu diddordebau a’u doniau y tu hwnt i’r cwricwlwm ffurfiol.

Mae gweithgaredd corfforol yn cyfrannu at ddatblygiad corfforol a meddyliol da. Mae iddo ystod eang o fanteision corfforol ac emosiynol, o ddatblygu cryfder y cyhyrau a’r esgyrn, cynnyddu canolbwyntio a pherfformiad addysgol a dysgu; i hybu gwell hwyliau a lleihau’r risg o lawer o’r afiechydon sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw. Mae datblygu ymddygiadau gweithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod plentyndod yn hollbwysig gan y gwyddom fod plant sy’n actif yn fwy tebygol o ddod yn oedolion egnïol a pharhau i elwa ar fanteision ffordd o fyw egnïol gydol eu bywyd.

  1. Yma yn Penglais, cyflwynir cwricwlwm eang a chytbwys sy’n darparu dewis eang o weithgareddau corfforol, sy’n ymgorffori dysgu cwricwlaidd â diwylliant, ethos a’r amgylchedd ac ymgysylltu â chymuned ehangach yr ysgol.
  2. Rydym yn sicrhau bod gan staff yr hyder a’r cymhwysedd i gynnig profiadau o ansawdd uchel o addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol ar draws yr ysgol.
  3. Ymgysylltu a llais y disgybl – rhoi llais i fyfyrwyr a gwella eu perchenogaeth o weithgareddau corfforol er mwyn sicrhau bod gweithgareddau wedi’u teilwra’n briodol i’w hanghenion sy’n gallu cefnogi cyfranogiad. (Cyfleusterau’r brifysgol ym mlwyddyn 11).
  4. Creu amgylcheddau egnïol – mynediad da i gaeau chwarae’r ysgol, y cyrtiau, y neuadd chwaraeon, y gampfa a’r ystafell bwysau gan ddarparu mynediad i ystod o offer.
  5. Cynnig dewis ac amrywiaeth – cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gweithgarwch corfforol i fyfyrwyr gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol. Yn ogystal, ffocws ar weithgareddau hamdden, yn ogystal â chwaraeon mwy traddodiadol neu weithgareddau cystadleuol, sy’n helpu i annog cyfranogiad.
  6. Ymwreiddio yn y cwricwlwm, addysgu a dysgu – cynyddu’r amser a dreulir yn gwneud ymarfer corff yn ystod Addysg Gorfforol. Mae CA 3 yn cael 120 munud yr wythnos a CA4 yn cael 120 munud bob pythefnos
  7. Hyrwyddo cyrsiau a theithiau sgïo a all chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at lefelau gweithgaredd corfforol y myfyrwyr.
  8. Cynnig a chyflwyno trwy’r rhaglen Pobl Ifanc Heini, weithgareddau amser cinio ac ar ôl ysgol. Hefyd darparu’r cystadlaethau gemau tîm mwy traddodiadol lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i gynrychioli’r ysgol yn y cynghreiriau, yr Urdd a chystadlaethau cwpan Cymru.