Opsiynau ar gyfer Pynciau TGAU
Bob blwyddyn byddwn yn cynnal y broses opsiynau ar gyfer Blwyddyn 9 ac 11 er mwyn caniatáu iddynt ddewis rhai o’u pynciau ym Mlynyddoedd 10 a 12. Rydym yn darparu llyfryn opsiynau ynghyd â bwydlen opsiynau ym mis Ionawr a mis Chwefror gydag esboniad o’n holl gyrsiau.
Rydym yn hynod ffodus yma yn Penglais o fod yn gallu cynnig ystod eang o opsiynau ar gyfer Blwyddyn 10 ac 11 ynghyd a’r Chweched Dosbarth. Mae hyn oherwydd arbenigeddau pwnc ein staff a maint ein hysgol.
Yn ogystal â hyn, cynhelir ein nosweithiau opsiynau lle rydym yn darparu gwybodaeth am yr holl gyrsiau a gynigir ac sy’n rhoi cyfle i rieni a gwarcheidwaid drafod y cyrsiau’n fwy manwl.
Bydd y llyfrynnau a’r ddewislen opsiynau ar gael ar yr adran hon o’r wefan unwaith y byddant wedi’u cwblhau a’u rhannu â’r grwpiau blwyddyn priodol..
Os hoffech drafod y broses ymhellach, e-bostiwch ein Dirprwy Bennaeth Ms. H Leighton ar hgl@penglais.org.uk