Yr unig wybodaeth sydd yn angenrheidiol yw lleoliad y llyfrgell. – Albert Einstein
Mae llyfrgelloedd yn storio’r egni sy’n tanio’r dychymyg. Maent yn agor ffenestri i’r byd ac yn ein hysbrydoli i archwilio a chyflawni, a chyfrannu at wella ansawdd ein bywyd.– Sidney Sheldon
Byddaf yn flin os nad oes gennyf lyfrgell ragorol.” — Jane Austen
“Mae llyfrau yn hud cludadwy unigryw” – Stephen King
Mae darllenydd yn byw mil o fywydau cyn iddo farw. Un yn unig mae’r dyn sydd byth yn darllen yn ei fyw.” – George R.R. Martin
“Dw i wastad wedi dychmygu mai rhyw fath o Lyfrgell fydd Paradwys.”- Jorge Luis Borges
Croeso i Lyfrgell Ysgol Penglais. Credwn y dylai’r llyfrgell fod yn galon ac yn ganolbwynt i’r ysgol. Gall y llyfrgell fod yn llawer o bethau gwahanol i’n myfyrwyr: maes gwaith hanfodol; ased ymchwil gwych; lle o gysur ac ymlacio; man darllen cynnes a chyfforddus; yn ddrws i wybodaeth a darganfyddiad ac yn arf defnyddiol ar gyfer arweiniad a chyflawniad.
Gwybodaeth Allweddol
Mae’r llyfrgell ar agor am 8:15am bob diwrnod o’r wythnos ysgol yn ystod y tymor.
Yn y llyfrgell mae tua 30 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr ac ar hyn o bryd mae bron i 11,000 o lyfrau.
Er mwyn darparu amgylchedd tawel ar gyfer gwaith a darllen, mae’r llyfrgell wedi cyflwyno diwrnodau tawel penodedig, sef amser cinio ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener.
Cynhelir clwb gwaith cartref ar ddydd Llun a dydd Mercher tan 4:15pm. Dyma gyfle i fyfyrwyr gwblhau gwaith cartref a gwaith ysgol gan ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael yn y llyfrgell ynghyd ag unrhyw arweiniad sydd ei angen gan ein llyfrgellydd, Mrs Kennedy. Gellir rhoi cymorth gyda thechnegau meistroli ymchwil, cynllunio adolygu a dod o hyd i wybodaeth yn ddigidol ac ar ffurf copi caled.
Darpariaeth Llyfrgell y Penglais
Mae’r llyfrgell yn annog myfyrwyr i ddarllen a benthyca llyfrau ac, ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd 2019 a Mai 2020, gwelwyd cynnydd o 45% mewn benthyciadau o gymharu â’r ffigurau o’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Bellach, mae rhestrau darllen ar gael ar gyfer pob grŵp blwyddyn. Gellir eu cael o’r llyfrgell neu’r gyfadran Saesneg. Mae’r llyfrgellydd yn sicrhau bod y ffuglen ddiweddaraf ar gael i’n darllenwyr brwd ac mae’n monitro argymhellion llyfrau a gwobrau llyfrau. Ceir detholiad eang o lyfrau ffeithiol i gefnogi’r cwricwlwm a’r dysgu.
Diolch i gyfranniad caredig y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon derbyniwyd cyllid ychwanegol i’r llyfrgell ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf er mwyn prynu mwy o lyfrau a seddau. Derbynnir yn ddiolchgar rhoddion o lyfrau, a all fod yn addas ar gyfer ein llyfrgell.
Dathlu Darllen ac Ysgrifennu
Cynhelir digwyddiadau dathlu yn y Llyfrgell gydol y flwyddyn academaidd gan gynnwys Diwrnod y Llyfr, digwyddiad Llyfr Harry Potter, Calan Gaeaf a’r Nadolig. Mae’n fwriad i gynnal mwy o ddigwyddiadau, gydag awgrymiadau gan fyfyrwyr yn cynnwys Diwrnod Star Wars, Alice in Wonderland Mad Hatter’s Tea Party, Roald Dahl a Sherlock Holmes.
Mae’r Llyfrgell hefyd yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau ysgrifennu, cystadlaethau barddoniaeth neu gystadlaethau addas eraill. Bu rhai o’n myfyrwyr yn cystadlu yng nghystadleuaeth dylunio tocyn llyfr, Tocynnau Llyfrau Cenedlaethol eleni.
Cyfraniad Myfyrwyr
Mae llyfrgell yr ysgol yn agored i bob myfyriwr, gyda Blwyddyn 7 yn cael ei chofrestru’n awtomatig pan fyddant yn ymuno â’r ysgol.
Mae barn myfyrwyr yn bwysig iawn a cheir blwch awgrymiadau yn y llyfrgell i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cael mewnbwn. Mae’r awgrymiadau hyn wedi ein helpu i gadw’r llyfrgell gyda llyfrau y mae myfyrwyr am eu darllen ynghyd a datblygu sesiynau tawel er budd amser astudio annibynnol myfyrwyr. Mae croeso bob amser i geisiadau am lyfrau, awgrymiadau ac argymhellion gan fyfyrwyr.
Gwneir defnydd llawn o’n llyfrgell gan ein myfyrwyr a bydd yn parhau i gynnig unrhyw gymorth sydd ei angen ar y myfyrwyr yn eu dysgu a’u lles.
Cofiwch, ““Pan fyddwch mewn penbleth ewch i’r llyfrgell.” -– J.K. Rowling