Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol?
Os credwn fod angen help ychwanegol arnoch yn yr ysgol, efallai y byddwn yn dweud bod gennych Anghenion Dysgu Ychwanegol a elwir hefyd yn ADY.
Bydd gwybodaeth gennych chi, eich athro a phobl eraill sy’n eich cefnogi yn cael ei chasglu i benderfynu a oes gennych ADY.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os oes gennych ADY, bydd cynllun yn cael ei ysgrifennu ar eich cyfer. Gelwir y cynllun yn Gynllun Datblygu Unigol a elwir hefyd yn CDU.
Bydd y CDU yn dweud beth fydd angen i chi allu ei ddysgu er mwyn datblygu eich cryfderau a hefyd beth fydd yn cael ei wneud er mwyn i chi gael y gefnogaeth briodol.
Weithiau bydd yr ysgol yn gofyn i Awdurdod Lleol (ALl) Cyngor Sir Ceredigion ysgrifennu’r cynllun.
Rhaid i’ch teimladau, eich meddyliau a’ch dymuniadau chi fod yn rhan o’r cynllun hwn. Yn ogystal, bydd barn eich teulu ac unrhyw un arall sy’n eich cefnogi yn rhan ohono.
Byddwch yn cael copi o’ch cynllun.
Rhaid i’ch athrawon wirio bod eich cynllun yn gweithio i chi yn barhaus. Bydd hyn yn digwydd bob 12 mis neu os bydd unrhyw newid.
Os byddwch yn symud, bydd eich cynllun yn symud gyda chi.
Bydd pawb yn cydweithio i wneud yn siŵr bod eich cynllun yn gweithio i chi.
Beth fydd yn digwydd os na all pobl gytuno ar yr hyn a ddylai fod yn fy nghynllun?
Byddwn yn gweithio gyda chi a’ch teulu i geisio cytuno ar y cynllun. Fodd bynnag, os nad ydych chi neu’ch teulu yn cytuno â phenderfyniadau allweddol ynghylch eich CDU gallwch apelio i dribiwnlys, grŵp arbennig o bobl sy’n gyfrifol am ddelio ag anghytundeb.
Gallwch ddysgu mwy am CDUau yma:
https://m.youtube.com/watch?v=vfFKpmYyL3A&feature=youtu.be&cbrd=1