Class Charts a Chyswllt
Mae Ysgol Penglais yn defnyddio meddalwedd ClassCharts sydd ag ap ar gael i rieni/gwarcheidwaid.
Bydd ClassCharts yn anfon neges atoch pan fydd eich plentyn wedi derbyn pwyntiau ymddygiad cadarnhaol (gwyrdd) – a hefyd unrhyw rai negyddol (coch). Bydd hefyd yn dweud wrthych pan fydd eich plentyn wedi cael diwrnod da.
Rydym hefyd yn defnyddio ClassCharts i hysbysu rhieni/gwarcheidwaid am unrhyw waith cartref. Gosodir gwaith cartref i’r myfyrwyr yn y dosbarth ac yna bydd yr athro yn ei nodi ar ClassCharts fel y gellir cael mynediad iddo gartref.
Anfonwch e-bost at Cara Jones yn Gwasanaethau Myfyrwyr ar cej@penglais.org.uk os nad ydych wedi derbyn eich cod i gael mynediad i’r cyfrif ar gyfer eich plentyn.